Heddiw, cynhaliodd aelodau o Bwyllgor Cyllid Senedd Cymru a Phwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban gyfarfod cyntaf Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal yn Holyrood, ac un o brif ddibenion y Fforwm yw darparu mecanwaith ar gyfer deialog a chydweithrediad rhwng seneddwyr yng Nghymru a’r Alban ar faterion o ddiddordeb cyffredin a materion sy’n peri pryder ym maes cyllid cyhoeddus datganoledig. Bydd y Fforwm hefyd yn cynnig cyfle i gael llais ar y cyd ar gyfer diddordebau Pwyllgorau Cyllid Cymru a’r Alban wrth graffu ar wariant Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig ac yn rhoi cyfleoedd i Aelodau ar draws y ddwy ddeddfwrfa gydweithio i rannu profiadau, gyda’r nod o wella gwaith craffu cyllidebol a chyllidol, yn ogystal â gwella tryloywder.
Bydd aelodau o Bwyllgor Cyllid Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Fforwm yn y dyfodol, unwaith y bydd y Pwyllgor hwnnw wedi’i sefydlu. Gellir gwahodd Pwyllgorau Seneddol eraill i gymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd lle bo hynny'n briodol.
Yn ei gyfarfod cyntaf, trafododd y Fforwm y ffyrdd o graffu ar y gyllideb yn y ddwy ddeddfwrfa a’r heriau sy'n wynebu cyllid cyhoeddus yn y dyfodol, yn ogystal â rhannu profiadau cyffredin a dysgu o arfer gorau ei gilydd.
Wrth gynnal y digwyddiad, dywedodd Kenneth Gibson MSP, Cynullydd Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban:
“Gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig bellach yn gwario mewn meysydd datganoledig, mae’n hanfodol bod Pwyllgorau Cyllid y gwledydd datganoledig yn gallu trafod ar y cyd effaith y cymhlethdod hwn ar waith craffu Seneddol, yn ogystal â’r effaith ar dryloywder. Bydd y Fforwm yn chwarae rhan bwysig wrth rannu mewnwelediadau i fynd i’r afael yn effeithiol â’r cymhlethdod hwn yn ogystal â dysgu am ragolygon ariannol, fframweithiau cyllidol a’r adnoddau ariannol a roddir i’r Llywodraethau datganoledig.”
Wrth groesawu sefydlu’r Fforwm, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd:
“Fel deddfwrfeydd datganoledig, rydym yn aml yn wynebu heriau tebyg a dyna pam rwy’n awyddus i weithio cymaint â phosibl gyda chydweithwyr yn yr Alban i rannu profiadau ac arfer gorau ac i ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif lle mae ei gweithredoedd yn ymwneud â Chymru a meysydd datganoledig.”
Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm yn Senedd Cymru ddiwedd 2022/ddechrau 2023.
Aelodau a oedd yn bresennol
Senedd yr Alban:
· Kenneth Gibson, Cynullydd y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Daniel Johnson, Dirprwy Gynullydd y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Liz Smith, aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Michelle Thomson, aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· John Mason, aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Douglas Lumsden, aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Senedd Cymru
· Peredur Owen Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
· Peter Fox, aelod o'r Pwyllgor Cyllid
Roedd swyddog o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedydd.